From: Jamie Medhurst [jsm] (Staff)
Sent: Friday, March 8, 2024 7:55 AM
To: Jewell, Delyth (Aelod o’r Senedd | Member of the
Senedd) <Delyth.Jewell@senedd.wales>
Subject: Fw: TORIADAU I'R SECTOR DDIWYLLIANT
Annwyl Delyth
Rown i am anfon hwn atat, er gwybodaeth, fel Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.
Cofion gorau
Jamie
From: Jamie
Medhurst [jsm] (Staff)
Sent: 07 March 2024 14:05
To: Correspondence.Mark.Drakeford@gov.wales
<Correspondence.Mark.Drakeford@gov.wales>
Cc: Correspondence.Dawn.Bowden@gov.wales
<Correspondence.Dawn.Bowden@gov.wales>
Subject: TORIADAU I'R SECTOR DDIWYLLIANT
Annwyl Brif Weinidog
Ysgrifennaf atoch fel defnyddiwr cyson y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers dros 35 mlynedd a hefyd fel Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Academaidd Archif Ddarlledu Cymru sydd wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Rwy'n cydnabod ein bod yn byw mewn amseroedd anodd yn ariannol, ond rwyf hefyd yn bryderus iawn i weld toriadau fydd yn effeithio ar ein sefydliadau diwylliannol - sefydliadau sydd â nod clir o warchod, curadu, a gofalu ar ôl ein hetifeddiaeth unigryw ni yng Nghymru - mewn print ac ar ffurf aml-gyfrwng. Mae'r toriadau yn rhai fach iawn, iawn o fewn cyllideb lawn y Llywodraeth, ond mae'r effaith ar y sefydliadau unigol yn mynd i fod yn andwyol. Fe fydd colli swyddi (ac yn hynny colli profiad proffesiynol a gwybodaeth sefydliadol hynod werthfawr), cwtogi ar wasanaethau i'r cyhoedd, a hyd yn oed perygl i'r casgliadau eu hunain os nad yw'r staff a'r arbenigedd yna i'w cadw a chynnal yn y ffordd iawn.
Yn y Gytundeb Gydweithio (2021), fe wnaeth y Llywodraeth a Phlaid Cymru ymrwymo i '[dd]atblygu strategaeth ddiwylliant newydd, sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, iaith Gymraeg ffyniannus, ein sectorau diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau a’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn yn sicrhau cynaliadwyedd ariannol ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol wrth inni weithredu’r strategaeth....' Fy ngofid i yw bod yna berygl, bellach, o fethu ar y polisi hwn yn sgil y toriadau arfaethedig.
Erfyniaf ar y Llywodraeth i ail-feddwl ac i ail-ystyried y toriadau hyn. Mae'r sefydliadau diwylliannol hyn dan straen eisoes - fe fydd toriadau pellach yn gwneud pethau'n llawer gwaeth.
Yn gywir iawn
Jamie Medhurst
|
|||||||
|
|||||||
|